Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 29 Medi 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 12:01 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_700000_29_09_2011&t=0&l=cy
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Ann Jones (Cadeirydd) Peter Black Mike Hedges Mark Isherwood Bethan Jenkins Gwyn R Price Ken Skates Janet Finch-Saunders Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Naomi Alleyne, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Bernie Bowen-Thomson, Safer-Wales Jim Crowe, Anabledd Dysgu Cymru Rhian Davies, Anabledd Cymru Miranda French, Anabledd Cymru David Morgan, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Karen Warner, Anabledd Dysgu Cymru Mark Williams, Safer Wales |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Hannah Johnson (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhodri Glyn Thomas. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.
2. Aflonyddu ar sail anabledd - casglu tystiolaeth
2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion canlynol: Rhian Davies a Miranda French o Anabledd Cymru; Jim Crowe a Karen Warner o Anabledd Dysgu Cymru; Mark Williams a Bernie Bowen-Thomson o Cymru Ddiogelach; a Naomi Alleyne a David Morgan o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
2.2 Gwnaeth y tystion gyflwyniadau cyn ateb cwestiynau gan Aelodau.
2.3 Bydd CLlLC yn darparu nodyn am y protocol ar gyfer rhannu gwybodaeth ynghylch oedolion sy’n agored i niwed.
2.4 Bydd CLlLC yn darparu nodyn am y gwaith sy’n mynd rhagddo mewn ysgolion ynghylch aflonyddu ar sail anabledd.
2.5 Cytunodd cynghorydd cyfreithiol y Pwyllgor i ddarparu nodyn am ddiogelu data.
3. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4. Penderfyniad i sefydlu Grwp Gorchwyl a Gorffen i ystyried y rhagolygon ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru (11.40 - 11.50)
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y penderfyniad canlynol, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 17.17:
“Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 17.17, er mwyn trafod rhagolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru.
Aelodau’r grŵp gorchwyl a gorffen fydd: Ken Skates; Janet Finch-Saunders; Bethan Jenkins a Peter Black.
Ken Skates fydd Cadeirydd y grŵp gorchwyl a gorffen.
Cylch gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen fydd trafod y rhagolygon ar gyfer gwahanol lwyfannau'r cyfryngau yng Nghymru ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Cymunedau a Llywodraeth Leol, drwy ymchwilio i:
Gyflwr presennol y cyfryngau yng Nghymru a’r effaith y mae technoleg newydd a datblygiadau eraill yn ei chael ar hyn, yng nghyd-destun pryderon parhaus ynghylch dyfodol y cyfryngau darlledu a phrint yng Nghymru;
Beth ddylai’r blaenoriaethau fod o safbwynt Cymru wrth i Lywodraeth y DU gyflwyno cynigion ar gyfer ei Bil Cyfathrebu;
Y cyfleoedd i adeiladu modelau busnes newydd ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru; a
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi argymhellion adroddiad Hargreaves ar waith a pha gamau eraill y gellid eu cymryd i gryfhau’r cyfryngau yng Nghymru o ran cynnwys a lluosogrwydd y ddarpariaeth.
Bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn dod i ben ar 31 Ionawr 2012, neu pan fydd wedi adrodd yn ôl, pa un bynnag a ddaw gyntaf.”
4.3 Diolchodd Cadeirydd y grŵp gorchwyl a gorffen i Bethan Jenkins, a gyflwynodd y cais gwreiddiol i sefydlu’r grŵp, ac i’w staff, a fu’n cynorthwyo’r tîm clercio cyn ei sefydlu.
5. Blaenraglen Waith (11.50 - 12.00)
5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y flaenraglen waith, a chytunodd mai tai cymdeithasol fyddai testun yr ymchwiliad nesaf. Bydd cylch gorchwyl drafft yn cael ei anfon at yr Aelodau i’w drafod yn y cyfarfod nesaf.
6. Papurau i'w nodi
6.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.